Proverbs 21

1Mae penderfyniadau'r
21:1 penderfyniadau Hebraeg, “calon”
brenin fel sianel ddŵr yn llaw'r Arglwydd;
mae'n ei arwain i ble bynnag mae e eisiau.
2Mae pobl bob amser yn meddwl eu bod yn gwneud y peth iawn,
ond mae'r Arglwydd yn pwyso a mesur y cymhellion.
3Mae cael rhywun yn gwneud beth sy'n gyfiawn ac yn deg
yn well gan yr Arglwydd nag aberthau.
4Mae snobyddiaeth a balchder
– sy'n nodweddu pobl ddrwg – yn bechod.
5Mae llwyddiant yn dod o gynllunio gofalus a gwaith caled;
ond dydy brys gwyllt ond yn arwain i dlodi.
6Mae ffortiwn wedi ei ennill drwy ddweud celwydd
fel tarth sy'n diflannu – magl i farwolaeth.
7Mae pobl ddrwg yn cael eu llusgo i ffwrdd gan eu trais,
maen nhw'n gwrthod gwneud beth sy'n iawn.
8Mae pobl yn gallu bod yn dwyllodrus ac yn rhyfedd,
ond mae'r sawl sy'n bur yn gwneud beth sy'n iawn.
9Mae byw mewn cornel yn yr atig
21:9 yn yr atig Hebraeg, “ar do tŷ”

yn well na rhannu cartref gyda gwraig gecrus.
10Mae person drwg yn ysu am gael gwneud drwg,
ac yn dangos dim trugaredd at bobl eraill.
11Pan mae'r gwawdiwr yn cael ei gosbi mae'r gwirion yn dysgu gwers;
ond mae'r person doeth yn dysgu wrth wrando.
12Mae'r Duw cyfiawn yn gweld cartrefi pobl ddrwg;
bydd yn dod â dinistr arnyn nhw.
13Os ydy rhywun yn gwrthod gwrando ar gri'r tlawd,
bydd e'n gweiddi hefyd, a fydd neb yn ei ateb.
14Mae rhodd cyfrinachol yn tawelu llid,
a cildwrn yn tewi'r un sydd wedi colli ei dymer.
15Mae'r rhai cyfiawn wrth eu bodd yn gwneud beth sy'n iawn,
ond mae'n ddychryn i bobl ddrwg.
16Bydd pwy bynnag sy'n crwydro oddi ar y llwybr iawn
yn cael ei hun yn gorffwys gyda'r ysbrydion.
17Bydd y sawl sydd ond eisiau bywyd o bleser yn cael ei hun yn dlawd;
dydy gwin a bywyd moethus ddim yn gwneud rhywun yn gyfoethog.
18Bydd y drwg yn talu'r pris yn lle'r cyfiawn;
a'r twyllwr yn diodde yn lle'r un sy'n onest.
19Mae'n well byw mewn tir anial
na gorfod diodde gwraig gecrus a blin.
20Mae'r person doeth yn cynilo,
ond mae person ffôl yn gwario'r cwbl sydd ganddo.
21Mae'r un sy'n ceisio gwneud beth sy'n iawn a bod yn garedig
yn cael bywyd, llwyddiant ac enw da.
22Mae dyn doeth yn gallu concro dinas sydd â byddin bwerus
a bwrw i lawr y gaer oedden nhw'n teimlo'n saff ynddi.
23Mae'r person sy'n gwylio beth mae'n ei ddweud ac yn ffrwyno'i dafod
yn cadw ei hun allan o drafferthion.
24Mae'r person balch, haerllug
– yr un sy'n gwawdio pobl eraill –
yn gwneud pethau cwbl ddigywilydd.
25Mae blys person diog yn ddigon i'w ladd,
am ei fod yn gwrthod gweithio â'i ddwylo.
26Mae'n dyheu ac yn ysu am fwy drwy'r adeg,
tra mae'r person cyfiawn yn rhoi yn ddi-baid.
27Mae'n gas gan Dduw aberth sy'n cael ei gyflwyno gan rywun drwg,
yn enwedig os ydy ei fwriad wrth ddod ag e yn ddrwg.
28Mae tyst celwyddog yn cael ei dewi;
y tyst oedd wedi gwrando sy'n cael y gair ola.
29Mae person drwg yn smalio ac yn bwrw yn ei flaen;
ond mae'r person gonest yn meddwl ble mae'n mynd.
30Does dim doethineb na deall na chyngor
sy'n gallu ennill y dydd ar yr Arglwydd.
31Mae milwyr wedi paratoi meirch ar gyfer y rhyfel,
ond yr Arglwydd sy'n rhoi'r fuddugoliaeth.
Copyright information for CYM